ISWE - Darlith Flynyddol 2026


Ymunwch â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar gyfer ein Darlith Flynyddol 2026. Eleni, bydd y ddarlith 'Lady Llanover & the Reinvention of Wales in the Nineteenth Century' yn cael ei draddodi gan Dr Marion Löffler.  

Dyddiad ac Amser: Mai 5, 2026 18:00 -19:00

Cyswllt  Dr Shaun Evans

Lleoliad: MALT, Prif Adeilad Y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG

Mae croeso i fynychwyr ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor, fodd bynnag, dylai unrhyw un sy'n dymuno gwylio'r ddarlith ar-lein gofrestru trwy'r ddolen a ddarperir. Croeso i bawb!

Pennaeth Hanes yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd yw Dr Marion Löffler. Mae'n ymddiddori'n arbennig yn y berthnasoedd rhwng diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd Cymru, yn ogystal ag yn lle Cymru yn Ewrop Sioraidd a Fictoraidd ac Ymerodraeth Prydain. Adleisiau'r Oleuedigaeth a Chwyldro Ffrengig 1789 yng Nghymru, trosglwyddo gwybodaeth trwy gyfieithu ac addasu cysyniadau a syniadau rhyngwladol, yn ogystal â hanes yr eisteddfod yw canolbwyntiau ei hymchwil. Mae Marion yn aelod o Fwrdd y Bywgraffiadur Cymreig a Phwyllgor Archif Menywod Cymru, ac mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr anweithredol Sefydliad Cyfarthfa.

Nodwch, bydd y ddarlith hon yn Saesneg. 

Cofeestrwch i fynychu ar-lein